DATGANIAD

GAN

LYWODRAETH CYMRU

 

 


TEITL

Deddfwriaeth yn ymwneud ag ymadael â'r UE

DYDDIAD

25 Chwefror 2020

GAN

Jeremy Miles AC, y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit

 

Roeddwn yn meddwl y byddai'n fuddiol rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau ar y datblygiadau diweddar a'r rhagolygon o ran deddfwriaeth sy'n codi yn sgil ymadael â'r Undeb Ewropeaidd.

 

I ddechrau, byddaf yn ystyried Deddf y Cytundeb Ymadael a'r goblygiadau ar gyfer confensiwn Sewel.

 

Bydd yr Aelodau’n cofio bod y Senedd hon, ar 21 Ionawr, wedi dilyn argymhelliad Llywodraeth Cymru a gwrthod cydsyniad ar gyfer y ddeddfwriaeth honno.

 

Mae wedi'i ddweud sawl gwaith yn y Senedd mai rhesymau cyfansoddiadol yn bennaf oedd y tu ôl i hyn – o ran bygythiad y ddeddfwriaeth hon i gymhwysedd Senedd Cymru a gallu Llywodraeth Cymru i ddylanwadu ar y negodiadau sydd ar ddod a fydd yn cael effaith ddifrifol ar feysydd polisi datganoledig. Fe wnaethon ni bopeth posibl i wella'r Bil – a hynny cyn iddo gael ei gyflwyno ac yna gan weithio’n agos gydag Aelodau o Dŷ'r Arglwyddi i gynnig gwelliannau a fyddai wedi'i wneud yn dderbyniol o safbwynt datganoli. Ond, yn y diwedd, nid oedd modd darbwyllo Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Roedd ein penderfyniad yma yn y Senedd yn adlewyrchu pleidleisiau tebyg yng Nghynulliad Gogledd Iwerddon a Senedd yr Alban – y tro cyntaf i bob un o'r tair deddfwrfa wrthod cydsyniad ar gyfer yr un ddeddfwriaeth gan Senedd y Deyrnas Unedig. Er gwaethaf hyn, gwthiodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig y Bil drwodd i gael Cydsyniad Brenhinol wrth i Senedd San Steffan ddiystyru barn y tair deddfwrfa.

 

Gallai hyn fod wedi troi'n argyfwng cyfansoddiadol difrifol, gan fygwth seiliau datganoli. Fodd bynnag, mewn gohebiaeth, dywedodd Ysgrifennydd Gwladol yr Adran dros Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd fod yr amgylchiadau yn rhai "hynod, penodol ac eithriadol" a dywedodd Canghellor Dugiaeth Caerhirfryn eu bod yn "unigryw". Cafwyd sylwadau tebyg gan yr Arglwydd Callanan, Gweinidog Gwladol yn yr Adran dros Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, yn y trydydd darlleniad yn Nhŷ'r Arglwyddi ac mewn datganiad ysgrifenedig gan Ganghellor Dugiaeth Caerhirfryn.

 

Ysgrifennais wedyn at Stephen Barclay a Michael Gove i gydnabod yr arwyddion calonogol hyn bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cydnabod difrifoldeb y cam hwn a'i bod yn dehongli egwyddor 'ddim fel arfer' Sewel i olygu 'dim ond o dan yr amgylchiadau mwyaf eithriadol'. Ar y sail hon, fe wnes i eu hatgoffa ein bod ni, yn 'Diwygio ein Hundeb', wedi galw am godeiddio'r confensiwn drwy nodi'r amgylchiadau a'r meini prawf pan allai Llywodraeth y Deyrnas Unedig, mewn sefyllfa gyfyng, fwrw ymlaen â'i deddfwriaeth, er gwaethaf diffyg cydsyniad gan y deddfwrfeydd datganoledig. Fe alwon ni hefyd ar i Lywodraeth y Deyrnas Unedig drafod hyn ymhellach â ni.

 

Felly, er bod penderfyniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i fwrw ymlaen â Bil y Cytundeb Ymadael heb gydsyniad y deddfwrfeydd datganoledig yn peri cryn bryder, mae'n ymddangos eu bod yn credu, fel ninnau, y dylid ystyried yr achos hwn yn un eithriadol. Mae angen inni fynd ati nawr i adeiladu ar hynny.

 

Gan symud ymlaen, bydd yr Aelodau yn ymwybodol bod bron y cwbl o gyfraith yr Undeb Ewropeaidd yn dal i fod yn gymwys yn y Deyrnas Unedig yn ystod y cyfnod pontio. Ond mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ystyried a oes angen pwerau i gadw gyda datblygiadau yn neddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd y tu hwnt i’r cyfnod pontio – ac a fyddai pwerau o’r fath yn ymarferol. Nid ydym ar hyn o bryd yn gweld angen brys i gyflwyno Bil yn y Senedd sy’n cynnwys pwerau i gadw gyda deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd. Mae sawl rheswm dros hyn.

 

Y prif reswm, o bosibl, yw bod gennym bryderon o ran a fyddai’n dderbyniol i’r Senedd hon pe bai Gweinidogion Cymru yn cael pwerau eang i gadw gyda deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd o fewn cymhwysedd datganoledig drwy Fil hollgynhwysfawr. Ni fyddai hynny’n gyson â’r safbwyntiau y mae’r Aelodau wedi’u mynegi yn y gorffennol, felly byddai’r bar ar gyfer cynnig gweithred o’r fath yn cael ei osod yn uchel.

 

Mae yna hefyd ffyrdd eraill o alluogi Cymru i gadw gyda datblygiadau pan fyddwn yn gweld yr angen.

 

Yn gyntaf, mae gan Weinidogion Cymru eisoes bwerau i gadw gydag addasiadau technegol i ddeddfwriaeth drydyddol yr Undeb Ewropeaidd drwy swyddogaethau a gafodd eu creu gan yr Offerynnau Statudol ar gyfer Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd fel rhan o’r rhaglen gywiriadau, neu drwy bwerau domestig sydd eisoes yn bodoli. Bydd angen mynd ati i ddadansoddi pa bwerau sydd eisoes ar gael mewn ymateb i gynigion deddfwriaethol penodol yn yr Undeb Ewropeaidd wrth iddynt gael eu datblygu.

 

Ar gyfer deddfwriaeth fwy sylweddol yn yr Undeb Ewropeaidd, byddai eu proses ddeddfwriaethol nhw yn darparu mwy na digon o amser i alluogi Senedd Cymru i gyflwyno a phasio Bil pe bai angen.

 

Mae cyd-destun hyn oll yn bwysig. Mae Llywodraeth Cymru yn dal i fod wedi’i hymrwymo i broses y Fframweithiau Cyffredin. Rydyn ni’n credu y dylai’r broses hon alluogi a rheoli gwahaniaethau mewn polisi rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig a’r Llywodraethau Datganoledig, neu yn wir rhwng y Llywodraethau Datganoledig eu hunain. Rydyn ni’n bwriadu dilyn proses y fframweithiau cyffredin hyd at ei diwedd cyn penderfynu ble y gall fod angen inni ddilyn datblygiadau yn neddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol.

 

Serch hynny, hoffwn sicrhau’r Aelodau y byddwn yn parhau i adolygu’r sefyllfa.

 

Yn olaf, dylai’r Aelodau fod yn ymwybodol y bydd angen corff sylweddol o is-ddeddfwriaeth eleni. Ni allwn ddweud faint fydd ei angen cyn gwybod beth fydd hynt y negodiadau â’r Undeb Ewropeaidd, ac yn wir â thrydydd gwledydd eraill. Beth bynnag, bydd galw yn codi o’r gwaith arferol i weithredu cyfraith yr UE sy’n dod i rym eleni; yr Offerynnau Statudol cywiro pellach sy’n angenrheidiol i sicrhau bod cyfraith yr UE a ddargedwir yn ‘gweithio’ yng nghyd-destun diwedd y cyfnod pontio; a’r is-ddeddfwriaeth fydd ei hangen i weithredu’r systemau newydd sy’n cael eu sefydlu gan Filiau’r Deyrnas Unedig a Deddf y Cytundeb Ymadael ei hun.

 

Mae’r gwaith wedi hen ddechrau i benderfynu faint o ddeddfwriaeth fydd yn angenrheidiol – gymaint ag y gallwn ei benderfynu ar hyn o bryd – a byddaf, wrth gwrs, yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau.

 

 

 

 

Cadarnhewch yr hyn a draddodwyd

 

O dan embargo hyd nes y mae Jeremy Miles AC, y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit, wedi traddodi’r datganiad.